Cynllun i geisio atal problemau llifogydd
- Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod yn agos at gwblhau cynllun 'GlawLif' i leihau ac atal llifogydd yn ardal Porth Tywyn ger Llanelli.
Nawr mae'r cwmni yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio'r un math o gynllun mewn ardaloedd eraill.
Bydd y cynllun gwerth £6 miliwn ym Mhorth Tywyn yn lleihau'r dŵr glaw sy'n llifo i bibellau carthffosiaeth yr ardal.
Yn ôl Dŵr Cymru, cafodd y syniad gwreiddiol ei ddatblygu ym Malmo yn Sweden, a Portland yn Ohio.
Mae'r cwmni nawr yn sôn am fuddsoddi £60 miliwn mewn cynlluniau tebyg rhwng 2015-2020.
Er bod yna ganolbwyntio ar ardal Llanelli ar hyn o bryd, y bwriad yw cyflwyno 100 o wahanol gynlluniau ledled y wlad.
Ffyrdd wedi cau
Ym Mhorth Tywyn, mae nifer o ffyrdd y dref wedi bod ynghau tra bod pibellau'n cael eu gosod.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cydweithio ar y prosiect a'r nod yw cwblhau'r gwaith erbyn mis Mawrth.
Yn ôl y Cynghorydd Sir lleol, John James, mae'r gwaith wedi amharu ar drigolion ond mae'n gobeithio y byddan nhw'n elwa yn y pen draw.
"Mae Dŵr Cymru wedi bod yn dda, ond dyw hynny ddim i ddweud bod y gwaith heb gael effaith.
"Mae un ffordd wedi ei chau am naw mis, er mwyn caniatáu i bibell gael ei gosod dan y rheilffordd er mwyn cludo dŵr i ardal yr harbwr, ac mae un o'r prif lonydd i'r dre wedi bod ynghau am dair wythnos."
"Ond yn y tymor hir bydd pobl yn elwa.
"Oes, mae yna lifogydd wedi bod yn ddiweddar, ond rhaid i chi ystyried faint ma' hi wedi bwrw. Mae hwn yn sicr yn lleihau'r risg ac mae pobl leol wedi bod yn amyneddgar. "
Mae'r cynllun 'GlawLif' yn cynnwys:
Basnau a Mannau Plannu: Mae'r dŵr yn ymdreiddio trwy'r planhigion, gan gael gwared ar unrhyw lygredd, cyn cael ei ryddhau'n raddol bach yn ôl i'r pridd neu i'n rhwydwaith o garthffosydd.
Palmentydd: Math arbennig o gerrig palmant sy'n gadael i'r dŵr dreiddio drwyddynt, yn hytrach na llifo drostynt i mewn i'r draeniau cyfagos.
Sianeli glaswelltog: Stribedi o laswellt wedi eu gosod mewn strydoedd ymyl ac yn lonydd cefn terasau o dai er mwyn caniatau i ddŵr ymdreiddio iddo.
Storfeydd danddaear: Mae'r rhain yn cael eu gosod o dan ffyrdd a chyrbiau, ac maent yn helpu i arafu cyflymdra llif dŵr i'r rhwydwaith o garthffosydd.
'Problem hanesyddol'
Dywedodd Fergus O'Brien, Rheolwr Strategaeth GlawLif, fod yna broblem hanesyddol yn ardaloedd Llanelli a Thre-gŵyr gan fod y pibellau carthffosiaeth a dŵr glaw wedi eu cyfuno, ac felly bod pwysau mawr ar y bibell ar adegau o law trwm.
"Mae gormod o ddŵr glaw yn broblem, problem nad oes modd ei datrys yn syml drwy osod pibellau carthffosiaeth neu danciau cadw mwy.
"Dyw hynny ddim yn gynaliadwy nac yn fforddiadwy i'n cwsmeriaid, a byddai hynny ddim yn taclo'r broblem o ormod o ddŵr glaw yn mynd i'r rhwydwaith."
"Fe fydd y gwaith ym Mhorth Tywyn yn lleihau'r risg o lifogydd carthffosiaeth a llygredd, a bydd o fudd i'r gymuned leol a'r amgylchedd yn y dyfodol."
Yn ôl Dŵr Cymru, mae cynllun yn ardal Stebonheath, Llanelli, eisoes yn helpu'r gymuned yno.
"Roedd ysgol gynradd yn rhan o'r cynllun, ac yno rydym wedi llwyddo i atal yr hyn sy'n gyfystyr a 6 miliwn o boteli dŵr bob blwyddyn rhag mynd i'r rhwydwaith," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014