Prifathro ysgol Gymraeg: Teyrnged i 'beldroediwr talentog'
- Cyhoeddwyd

Mae prifathro ysgol Gymraeg wedi rhoi teyrnged i "beldroediwr talentog" wedi i'r heddlu ddod o hyd i gorff ym Marina Abertawe fore Gwener.
Cafodd yr heddlu eu galw am 10:18 cyn rhoi gwybod i deulu Jordan Miers oedd yn 21 oed.
Roedd wedi bod ar goll ers 20 Rhagfyr ar ôl noson allan gyda chydweithwyr.
Dywedodd Simon Davies, Prifathro Ysgol Gyfun Bryn Tawe: "Ro'dd yn bleser 'i ga'l e yn yr ysgol, bachgen diymhongar, cwrtais, hynod o weithgar.
'Torri'i chalon'
"A'th e ymla'n i'r chweched a wedyn y brifysgol.
"Ro'dd e'n beldroediwr talentog a brwdfrydig ... yn boblogaidd iawn gyda'r staff a'i gyfoedion."
Dywedodd cyfnither Jordan, Rhian, ei bod "wedi torri'i chalon".
"Rydw i eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r chwilio ac sydd wedi anfon geiriau caredig dros yr 20 diwrnod diwethaf," meddai.
Straeon perthnasol
- 24 Rhagfyr 2015
- 23 Rhagfyr 2015
- 21 Rhagfyr 2015