Tân ysgol Cwmbrân: Disgyblion yn dychwelyd fore Llun
- Cyhoeddwyd

Mae disgyblion wedi dychwelyd i ysgol gynradd yn Nhorfaen, gafodd ei difrodi gan dân, ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y tân yn Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân am tua 02:25 ar Ddydd Calan, gan ddinistrio'r feithrinfa.
Fe wnaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion ddychwelyd ar 11 Ionawr, ond bydd rhaid i blant y feithrinfa ddisgwyl nes 25 Ionawr.
Mae cyfanswm o chwech o bobl wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Torfaen ar gyfer addysg, David Yeowell bod trefniadau yn cael eu gwneud i ddymchwel yr adeilad gafodd ei ddifrodi, gan ychwanegu y bydd dosbarthiadau dros dro yn cael eu codi yn y cyfamser.