Cyngor Conwy yn ymchwilio i labelu cig

  • Cyhoeddwyd
ConwyFfynhonnell y llun, Cyngor Conwy

Mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau fod adran safonau masnach yn ymchwilio oherwydd cwyn fod label ar gig porc wedi ei halltu, oedd wedi ei werthu yng nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant, yn gamarweiniol.

Mae rhai cwsmeriaid wedi dweud ar wefannau cymdeithasol eu bod yn anfodlon am fod y cig wedi ei halltu yng Nghymru ond wedi ei gynhyrchu yng Ngwlad Belg.

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan bwyd fod y cwmni'n "cydweithio gyda'r ymchwiliad" a bod "holl gig ffres y cwmni yn Gymreig".

Mae'r cwmni wedi dweud bod yr holl gig porc ar werth wedi ei ddosbarthu iddyn nhw gan gwmnïau Castell Howell a Farm Fresh.

'100% yn gywir'

Mewn datganiad dywedodd Kathryn Jones, Cyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell: "Nid ydym yn cyflenwi Bwyd Cymru Bodnant yn uniongyrchol gydag unrhyw gynnyrch cig. Mae ein labelu yn 100% yn gywir ac nid ydym yn gyfrifol am labelau'r cwmnïau sy'n gwerthu'r cynnyrch i lawr y gadwyn gyflenwi.

"Rydym yn hollol hyderus am darddiad ein cynnyrch. Rydym yn ei wneud yn amlwg fod ein cig porc wedi ei halltu yn tarddu o du mewn i'r Undeb Ewropeaidd a'i fod yn cael ei halltu yng Nghymru. Felly ni all y labelu ddweud ei fod yn dod o Gymru'n wreiddiol.

"Mae ein labelu - a rhai ein his-gwmnïau yn cynnwys Farm Fresh - wastad yn eglur a thryloyw ac ni ellir ystyried ein bod yn gyfrifol am labelu anghywir gan fanwerthwyr sydd efallai wedi prosesu ac ail-becynnu unrhyw gynnyrch sydd wedi ei gynhyrchu ganddon ni."

Nid oedd y ganolfan bwyd am wneud unrhyw sylw pellach tra oedd ymchwiliad yr adran safonau masnach yn cael ei gynnal.