Rhaid 'dysgu gwersi' o'r llifogydd diweddar

  • Cyhoeddwyd
dyfeed
Disgrifiad o’r llun,
Rhaid bod yn 'proactive' wrth ymateb i lifogydd, meddai Dyfed Edwards

Mae gofyn "dysgu gwersi" i sicrhau y gall Cymru ymateb yn fwy effeithiol i lifogydd, yn ôl arweinydd cyngor.

Daw'r rhybudd wrth i awdurdodau lleol barhau i ddelio â'r mis Rhagfyr gwlypaf gafodd ei gofnodi erioed.

Dywedodd Dyfed Edwards, arweinydd cyngor Gwynedd: "Mae angen i ni fod yn proactive, fedrwn ni ddim oedi pan mae sefyllfa fel hyn yn codi.

"Mae angen gwasgu'r botwm yn syth."

Ond wfftiodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol unrhyw awgrym nad oedd Cymru wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer y llifogydd.

Wrth ymateb i'r cyhuddiad, dywedodd Carl Sargeant: "Na, dim o gwbl."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Carl Sargeant yn mynnu bod paratoadau yn eu lle ar gyfer y llifogydd

Dywedodd Mr Edwards wrth raglen BBC Cymru Sunday Politics: "Dwi'n meddwl taw'r perygl i Lywodraeth Cymru ac i ni sy'n llywodraethu ar ba bynnag lefel yw ein bod ni'n ymateb byth a hefyd - mae 'na argyfwng ac rydan ni'n ymateb.

"Mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n cymryd cam yn ôl ac yn gofyn ydy'r isadeiledd, ein hamddiffynfeydd yn gywir, ydy'r gefnogaeth yn ei lle er mwyn fod yn proactive, a hefyd helpu pobol pan fo'r fath amgylchiadau'n codi.

"Dyna'r drafodaeth fydden ni'n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn ei harwain."

'Ymdopi'

Dywedodd Mr Sargeant: "Dwi'n meddwl bod y timoedd yn gweithio'n galed dros ben o Ddydd San Steffan ymlaen i sicrhau bod modd i gymunedau ymdopi ar ôl problemau.

"Mae ein staff yn gweithio ddydd a nos ar draws Cymru, a dwi wedi'n nghalonogi gan y gwaith sy'n mynd rhagddi.

"Fyddwn ni'n parhau i sicrhau fod ein cymunedau ni'n gallu ymdopi yn y dyfodol."

Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 1100 ddydd Sul 10 Ionawr