BBC Cymru Fyw

Enwi dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy

Published
image copyrightFacebook
image captionJordan Bell

Mae un o ddau ddyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy nos Wener wedi cael ei enwi'n lleol fel Jordan Bell, oedd yn 19 oed.

Mae aelodau o'i deulu wedi bod yn disgrifio eu galar ar wefannau cymdeithasol, gan ddweud eu bod wedi "torri eu calonnau".

Cafodd dau ddyn arall, 20 a 24 oed, eu cludo i'r ysbyty ac maent wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4598 ger bwyty'r Hardwick yn y Fenni ychydig cyn 23:00. Dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 19 oed a dyn 35 oed o ardal Y Fenni wedi marw yn y fan a'r lle.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad rhwng y Toyota Celica glas a'r Citroen C2 coch gysylltu â 101.