Rhybudd eto am law trwm i rannau o'r wlad
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd am law trwm yn ne a chanolbarth Cymru dros y penwythnos a all arwain at ragor o lifogydd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 20mm o law ddisgyn mewn cyfnod byr.
Mae posibilrwydd hefyd i hynny arwain at broblemau ar y ffyrdd.
Mae'r rhybudd mewn grym o 08:00 ddydd Sadwrn i 12:00 ddydd Sul ar gyfer de Chymru a Phowys.