Gweilch 9-22 Leinster
- Cyhoeddwyd

Cafodd Dave Kearney ddau gais wrth i Leinster ddringo i frig tabl y Pro 12 gyda'u buddugoliaeth gyntaf dros y Gweilch yn Abertawe ers 2009.
Yr asgellwr o Iwerddon sgoriodd gais cyntaf a ola'r gêm.
Y maswr, Dan Biggar, sgoriodd holl bwyntiau'r Gweilch yn Stadiwm Liberty.
Ond roedd Leinster yn rhy gryf i'r tîm cartref ac wedi cais cofiadwy Noel Reid, doedd y Gweilch methu ymateb.