Darganfod corff yn y môr ym Mro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn y môr ym Mro Morgannwg, yn dilyn 10 diwrnod o chwilio ar hyd yr arfordir ger Southerndown.
Dywed Heddlu De Cymru mai enw'r dyn fu farw oedd Marvin James. Roedd ar goll ers 30 Rhagfyr.
Daeth hyn yn dilyn darganfod ei fan Ford Transit oedd wedi ei difrodi ar greigiau gerllaw yn Aberogwr.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd wedi gweld cerbyd Mr James cyn y digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.