Cynllun i ail-leoli heddweision cymunedol yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Fe allai rhannau o Wrecsam sydd yn dioddef lefelau uchel o droseddu weld cynnydd ym mhresenoldeb yr heddlu yn yr ardal, o dan gynlluniau arfaethedig.
Mae Cyngor Wrecsam yn ariannu swyddogion cymunedol yr heddlu yn y sir, ac mae'r cyngor am newid y pwyslais ar ble y caiff y swyddogion eu defnyddio.
Mae'r cynllun yn cynnwys galluogi cymunedau i sefydlu rhwydwaith o gwnstabliaid arbennig gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd cynghorwyr yn penderfynu ar yr argymhellion ddydd Mawrth.