BBC Cymru Fyw

Gwrthdrawiad Y Fenni: Ymchwiliad yr heddlu yn parhau

Published
image copyrightFacebook
image captionJordan Bell

Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy pan fu farw dau ddyn ychydig cyn 23:00 nos Wener.

Mae un o'r dynion fu farw wedi cael ei enwi'n lleol fel Jordan Bell, oedd yn 19 oed.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad ar y B4598 ger bwyty'r Hardwick yn y Fenni.

Mae aelodau o'i deulu wedi bod yn disgrifio eu galar ar wefannau cymdeithasol, gan ddweud eu bod wedi "torri eu calonnau".

Dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 19 oed a dyn 35 oed o ardal Y Fenni wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd dau ddyn arall, 20 a 24 oed, eu cludo i'r ysbyty ac maent wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad rhwng y Toyota Celica glas a'r Citroen C2 coch gysylltu â 101 .