Darganfod corff Jordan Miers ym Marina Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai corff Jordan Miers gafodd ei ddarganfod ym Marina Abertawe ddydd Gwener.
Fe aeth y dyn, 21, ar goll ar 20 Rhagfyr a cafodd ei weld ddiwethaf yn cerdded ger yr Afon Tawe yn y ddinas tua 22:30.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r marina am 10:18 fore Gwener wedi i gorff gael ei ddarganfod yn y dŵr.
Wedi i Jordan Miers fynd ar goll, bu deifwyr, cŵn a hofrenyddion yn chwilio amdano.
Dywedodd Simon Davies, Prifathro Ysgol Gyfun Bryn Tawe: "Ro'dd yn bleser 'i ga'l e yn yr ysgol, bachgen diymhongar, cwrtais, hynod o weithgar."