Pris metel sgrap wedi gostwng yn 'sylweddol' dros 12 mis

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ellis Roberts aeth i ymweld â safle yn Abertawe

Mae pris metel sgrap wedi gostwng yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, arwydd pellach o'r pwysau ychwanegol ar y diwydiant dur yng Nghymru.

Erbyn hyn mae cost y cynnyrch tua hanner beth oedd 12 mis yn ôl.

Yr adeg hynny roedd hi'n bosib cael bron i £100 am dunnell o sgrap o gar, ond erbyn mis Rhagfyr bu'r swm rhwng £25 a £35.

Dyma rybudd arall bod economïau China a Brasil yn arafu a bod mwy o ddur yn y byd nag o alw.

Yn ôl un arbenigwr, dydi'r prisiau erioed wedi bod mor isel i'r diwydiant metel sgrap, sy'n cyflogi 1,500 o bobl yng Nghymru.

Mae'r gost yn gysylltiedig â phris dur ac mae'r DU yn allforio mwy o sgrap nag y mae'n ei fewnforio.

Dywedodd Adrian Stewart o gwmni Metalis yn Abertawe: "Mae'n amhosib bron gwneud elw allan o'r diwydiant dur ym Mhrydain ar y foment, dyna'r broblem fwyaf yn enwedig â buddsoddiad yn y dyfodol."

'Dim ateb hawdd'

Dywedodd Colin Richardson o asiantaeth Platts bod pris metel sgrap a dur yn "effeithio ar bob agwedd o'n bywydau".

Dywedodd bod metel sgrap hefyd yn gallu helpu i ariannu adeiladau a chynlluniau isadeiledd newydd oherwydd bod metel sgrap o hen adeiladau yn cael ei ddefnyddio i ariannu cynlluniau newydd.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb bod cryn ansicrwydd am ddyfodol y diwydiant dur ond bod Llywodraeth y DU yn "sefyll ar ochr" cymunedau a busnesau.

"Rydyn ni wedi gweithredu i ddelio gyda'r prisiau ynni uchel iawn y mae cwmnïau dur wedi bod yn ei dalu ac rydyn ni'n gweithredu ar lefel Ewropeaidd i geisio delio gyda'r don enfawr o fewnforion rhad o China sy'n dod i'r farchnad Ewropeaidd," meddai.

"Ond mae rhain yn broblemau heriol a pe bai ateb hawdd i roi gwen yn ôl ar wynebau'r bobl yn y cymunedau dur byddwn ni'n gwneud hynny."