Rhybudd newydd am stofiau coed 'peryglus' yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd o'r newydd i bobl i wirio stofiau coed neu lo yn eu cartrefi i sicrhau eu bod wedi eu gosod yn gywir.
Pryder Cyngor Sir Penfro yw bod cannoedd ohonyn nhw'n "beryglus" os cawson nhw eu gosod yn eu lle gan y diweddar Steven Poole o Dre Ioan.
Fe blediodd ef yn euog i osod stofiau heb gadw at y gofynion cyfreithiol.
Clywodd y llys nad oedd Mr Poole o gwmni SM Poole wastad yn sicrhau fod cysylltiadau'r corn simnai wedi eu gosod yn gywir.
Roedd e hefyd wedi methu â chadw at y gofynion i osod synhwyryddion carbon monocsid.
Ysgrifennodd HETAS - y corff sy'n goruchwylio'r diwydiant gwresogi domestig - at 500 o gwsmeriaid yn yr ardal yn awgrymu bod eu stofiau'n cael eu profi.
O'r rheiny dywedodd y cyngor bod 160 wedi ymateb i'r cynnig.
"Rydym yn parhau i fod yn hynod o bryderus bod yna nifer o stofiau coed neu lo yn sir, sydd o bosib yn beryglus," meddai Huw George, sy'n gyfrifol am yr amgylchedd ar Gyngor Sir Penfro.
"Rydym hefyd yn gwybod bod nifer o gwsmeriaid SM Poole heb eu cofrestru, ac felly dydyn ni methu cysylltu â nhw. Rydym yn eu hannog i sicrhau bod eu stofiau wedi eu gosod yn gywir."