Caerdydd 0-1 Yr Amwythig
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd allan o Gwpan FA Lloegr yn y drydedd rownd ar ôl golli gartref i'r Amwythig.
Andy Mangan sgoriodd unig gôl y gêm i'r tîm o'r adran gyntaf toc wedi'r awr.
Fe aeth Federico Macheda yn agos i unioni'r sgôr i'r Adar Gleision gyda 15 munud yn weddill, ond fe wnaeth golwr Amwythig, Mark Halstead, arbed yn dda.
Tarodd Ian Black y postyn dros yr ymwelwyr gyda munudau yn weddill.