Carcharu gyrrwr 'didrugaredd' am daro bachgen ifanc, 10

  • Cyhoeddwyd
damwain

Mae beiciwr modur, na stopiodd ar ôl taro bachgen ifanc yn ne Cymru, wedi ei garcharu am 15 mis.

Bu Tye Hawkins, 10, mewn uned gofal dwys am 17 diwrnod a bydd angen triniaeth am weddill ei fywyd wedi'r digwyddiad yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, ar 3 Medi'r llynedd.

Plediodd y gyrrwr, Matthew Llewellyn, 27, yn euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chyhuddiadau eraill yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Dywedodd y Barnwr D Williams bod Llewellyn wedi ymddwyn yn "ddidrugaredd" ynghylch anafiadau'r bachgen.

Anafiadau difrifol

Clywodd y llys bod y bachgen yn croesi'r ffordd gyda'i fam pan gafodd ei daro gan y beic modur 600cc.

Cafodd Tye anafiadau difrifol, ond ni wnaeth Llewellyn stopio.

Gyrrodd am 11 milltir cyn cael gwared ar y beic mewn dŵr yn Abercanaid a dianc mewn car.

Cafodd ei arestio yn ne Cymru ar 18 Medi ond gwadodd mai ef oedd yn gyrru'r beic ar y pryd.

Ni wnaeth gyfaddef mai ef oedd yn gyrru'r beic tan iddo ymddangos yn y llys yn ddiweddarach.

'Newidiadau'

Clywodd y llys y byddai Tye mewn uned arbenigol am dri mis ac y byddai ei anafiadau yn effeithio arno am weddill ei fywyd.

Mewn datganiad, dywedodd mam y bachgen, Clair, mai'r misoedd diwethaf oedd "y gwaethaf yn fy mywyd".

"Rydw i wedi gweld newidiadau yn Tye, mae'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio, mae'n cael hunllefau ac mae angen cymorth i wisgo ei hun."

Dywedodd y barnwr nad oedd Llewellyn wedi dangos unrhyw "gonsyrn am y bachgen ifanc yma a phob consyrn am eich hunain - pan nad oedd mwy o gelwydd i'w dweud, fe wnaethoch chi ddweud dim".