Athro o Brifysgol Aberystwyth i dderbyn 'Polar Medal'
- Cyhoeddwyd

Bydd rhewlifegwr o Brifysgol Aberystwyth yn derbyn anrhydedd y 'Polar Medal' am ei waith.
Mae'r Athro Bryn Hubbard yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad fel ysgolhaig mewn rhewlifeg, daeareg rhewlifol a strwythur a symudiad darnau mawr o rew.
Fe dreuliodd yr Athro Hubbard naw wythnos yn tyllu ar ysgafell ia'r Larsen C yn Antartica a bydd yn derbyn y wobr mewn seremoni ym Mhalas Buckingham.
Mae'n gyfarwyddwr canolfan rhewlifeg y brifysgol a dywedodd mai "anrhydedd" yw cael ei gydnabod.