Colli swyddi ym Mharc Cenedlaethol y Bannau
- Cyhoeddwyd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cyhoeddi y bydd wyth aelod o staff yn gorfod colli eu swyddi yn dilyn toriad o 4.7% i'w gyllideb.
Dywed yr awdurdod bod y diswyddiadau o ganlyniad i gwtogi ar wariant cyhoeddus, sy'n golygu bod rhaid gwneud toriadau o £218,000 am y flwyddyn ariannol 2016-2017.
Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, John Cook: "Rydym yn credu bod y cyfle i wneud y toriadau hyn drwy wneud arbedion effeithlonrwydd wedi dod i ben.
"Tra bod cyfle eto i wneud toriadau bychain drwy arbedion effeithlonrwydd, rydym wedi cyrraedd y pwnt lle mae angen cyflwyno toriadau i wasanaethau."
Canolfannau Ymwelwyr
Mae Mr Cook hefyd yn awgrymu "newidiadau sylweddol" i'w canolfannau ymwelwyr gyda'r bwriad hefyd o dorri ar "un o'r gweithgareddau y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo i ni".
Ychwanegodd: "Rydym am wneud arbedion o £70,000 trwy gwtogi'n sylweddol ar y gofod swyddfeydd yr ydym yn ei ddefnyddio a drwy reoli gwasanaethau technoleg gwybodaeth rheng-ôl gyda Chyngor Sir Penfro.
"Bydd argymhelliad yn cael ei wneud i aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar 5 Chwefror, ac fe fyddan nhw'n penderfynu ar drywydd pendant i'w ddilyn."
Cafodd ardal y Bannau Brycheiniog ei ddynodi'n Barc Cenedlaethol ym 1957 ac mae'r awdurdod yn cyflogi dros 130 o staff.