Cwest Jasmine: 'Dim cyfle i oroesi'

  • Cyhoeddwyd
Jasmine LapsleyFfynhonnell y llun, Daily Post

Mae ymgynghorydd meddygol wedi dweud wrth gwest na fyddai merch chwech oed, fu farw ar ôl tagu ar rawnwin, wedi cael unrhyw gyfle i oroesi wedi iddi gyrraedd yr ysbyty.

Roedd Jasmine Lapsley, o Lerpwl, ar wyliau gyda'i theulu ym Morfa Nefyn, Gwynedd, pan ddechreuodd gael trafferth anadlu ar 19 Awst, 2014. Bu farw yn ddiweddarach yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd yr ymgynghorydd Dr Dorothy Grainger fod y ferch wedi derbyn "anaf nad oedd modd ei oroesi".

Fe wnaeth staff yn Ysbyty Gwynedd gysylltu gyda Dr Grainger, sydd yn arbenigwraig yn Ysbyty Plant Manceinion, wedi i Jasmine gael ei chludo gan hofrennydd i Fangor am driniaeth.

Dywedodd wrth y cwest ei bod wedi derbyn galwad gan feddygon oedd yn chwilio am ail farn.

"Roedd yr holl arwyddion meddygol yn rhoi tystiolaeth i mi nad oedd gan Jasmine obaith o oroesi," meddai.

"Gyda'r holl ddiffyg ocsigen yr oedd Jasmine wedi ei ddioddef, roedd hi wedi dioddef anaf nad oedd modd ei oroesi."

Pan ofynnodd y crwner iddi pryd fyddai hynny wedi digwydd, dywedodd Dr Grainger: "Pan wnaeth hi gyrraedd yr ysbyty."

Ffynhonnell y llun, Shirley Roulston/Geograph
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Jasmine ar ei gwyliau gyda'i theulu ym Morfa Nefyn