Toriadau addysg uwch yn 'fygythiad' i'r Coleg Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Steffan Messenger
Mae cyrff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru wedi rhybuddio y gallai toriadau posib i gyllideb addysg uwch gael effaith ddifrifol ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rhagweld na fyddai'r Coleg yn medru datblygu ymhellach mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), tra bod Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei ddyfodol.
Dywed y cyrff y gallai cymorth i fyfyrwyr ym maes celfyddyd perfformio, a myfyrwyr rhan amser hefyd fod dan fygythiad.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n ariannu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mai mater i'r Cyngor Cyllido yw penderfynu sut i ddosbarthu'r arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r pryderon wedi eu cyhoeddi mewn dogfennau sydd wedi eu paratoi ar gyfer Pwyllgor Cyllid y Cynulliad, cyn cynnal ymchwiliad i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17.
Er bod cynnydd wedi ei gyhoeddi yn yr arian ar gyfer ariannu addysg a sgiliau yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth ym mis Rhagfyr, dywed Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru y bydd ei gyllideb craidd yn gweld gostyngiad o 32%.
Fe allai olygu effaith ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - sy'n derbyn arian er mwyn cynnal cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg - "gyda goblygiadau sylweddol i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau lle'r iaith Gymraeg mewn bywyd pob dydd".
'Ergyd'
Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae UCAC yn eu sylwadau hwythau. "Byddai torri nawr yn ergyd i'r gwaith rhagorol sydd wedi'i gyflawni eisoes," meddai'r ddogfen.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC: "Ar hyn o bryd mae 'na ansicrwydd llwyr - 'dy'n ni ddim wedi clywed unrhyw beth sy'n awgrymu beth fydd y trefniadau o nawr 'mlaen neu hyd yn oed os fydd 'na gyllid yn cael ei warantu - felly ma' hynny'n bryder anferthol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth BBC Cymru fod y gyllideb ddrafft "yn achos consyrn ac mae trafodaethau rhwng y Coleg Cymraeg, y cyngor cyllido a'r Llywodraeth yn mynd yn eu blaen."
Yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor, dywed corff Prifysgolion Cymru, sy'n cynrychioli buddiannau'r prifysgolion, fod "pryderon sylweddol" y gallai'r gwahaniaeth ariannu rhwng prifysgolion yng Nghymru a phrifysgolion Lloegr fod cymaint â £115m, gan "beryglu perfformiad tablau safle" a'i gwneud yn anoddach i recriwtio myfyrwyr yn y tymor hir.
Mae'r Cyngor Cyllido yn rhybuddio y gallai'r "toriadau arfaethedig...fygwth blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau twf economaidd a darpariaeth i wasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys gofal iechyd, yng Nghymru".
Mae'r arian y mae'r corff yn ei dderbyn yn cael ei ddosbarthu yn bennaf i ymchwil, darpariaeth addysg rhan amser a phynciau drud fel meddygaeth a'r celfyddydau perfformio.
Dywed Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru y byddai'r arian y mae'n ei glustnodi ar gyfer blaenoriaethau strategol eraill yn disgyn i £8m, i lawr o £70m yn 2015/16, petai'r corff yn llwyddo i ddiogelu arian ar gyfer ymchwil.
Mae'r corff hefyd yn dweud y byddai gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer addysg rhan amser yn effeithio ar ymdrechion i ymestyn mynediad i addysg uwch, ac fe fyddai cwtogi'r arian ar gyfer 'cyrsiau drud' yn effeithio ar allu colegau meddygol i hyfforddi digon o staff er mwyn cyrraedd gofynion y gwasanaeth iechyd.
Byddai gallu Cymru i gyflenwi unigolion talentog i'r diwydiant celfyddydau creadigol yn cael ei danseilio hefyd, petai cymorthdaliadau i'r celfyddydau perfformio yn cael eu cwtogi, meddai'r corff.
Llywodraeth
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Caiff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei ariannu drwy'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mater i'r Cyngor Cyllido yw penderfynu sut i ddosbarthu'r arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
"Bydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau'n cyflwyno llythyr blynyddol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fydd yn amlinellu'r blaenoriaethau y mae'r llywodraeth yn disgwyl i'r cyngor ei ddilyn yn 2016/17".