Prifysgol Aberystwyth: Penodi is-ganghellor dros dro

  • Cyhoeddwyd
Aber

Mae'r Athro John Grattan wedi'i benodi'n is-ganghellor dros dro ar Brifysgol Aberystwyth yn dilyn proses recriwtio fewnol.

Ar hyn o bryd mae'r Athro Grattan yn Ddirprwy is-ganghellor gyda chyfrifoldeb am Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol. Bydd yn ymgymryd â'r rôl newydd dros dro ar 1 Chwefror.

Mae penodiad yn dilyn cyhoeddiad gan yr is-ganghellor, yr Athro April McMahon, yn Rhagfyr 2015 ei bod yn dymuno rhoi'r gorau i'w swydd ar ddiwedd ei thymor o bum mlynedd ar 31 Gorffennaf 2016.

Bydd yr Athro McMahon yn canolbwyntio ar agweddau allanol o rôl yr is-ganghellor rhwng y 1af o Chwefror a'r 31ain o Orffennaf.

Mae'r Athro Grattan yn raddedig o Brifysgol Manceinion (Daearyddiaeth ac Archaeoleg), a derbyniodd Ddoethuriaeth o Brifysgol Sheffield lle'r astudiodd effaith echdoriadau folcanig yng Ngwlad yr Iâ ar gymunedau hynafol yng ngogledd a gorllewin Prydain.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Yr Athro John Grattan

'Swyddi allweddol'

Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel darlithydd yn 1995, ac ers hynny cyflawnodd nifer o swyddi arweinyddol mewnol allweddol, gan gynnwys Deon Cyfadran y Gwyddorau, cyn ei benodi'n ddirprwy is-ganghellor yn 2012.

Ar hyn o bryd mae'r Athro Grattan yn Gadeirydd Grŵp Gweithredu Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru, yn aelod o fwrdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), yn Gynrychiolydd Cenedlaethol ar y Grŵp Strategaeth Gwybodaeth Gyhoeddus Addysg Uwch, ac yn aelod o SAGE - Cyngor Gwyddonol i'r Llywodraeth mewn Argyfyngau.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Canghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth: "Rwy'n croesawu penodiad yr Athro Grattan gan Gyngor y Brifysgol i rôl yr is-ganghellor dros dro, ac mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gydag ef."

'Braint'

Dywedodd yr Athro John Grattan: "Mae'n fraint i mi gael fy mhenodi i rôl yr is-ganghellor dros dro ar Brifysgol Aberystwyth ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r is-ganghellor, yr Athro April McMahon dros y misoedd nesaf i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud yn ystod ei chyfnod yma.

"Mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi dros £100m mewn cyfleusterau ymchwil ac addysgu newydd a phreswylfeydd myfyrwyr, gwaith sy'n hanfodol i lwyddiant y Brifysgol a'r economi leol. Mae'r Brifysgol yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ansawdd ei haddysgu a'i hymchwil, ac am y profiad myfyrwyr, a bydd 2016 yn flwyddyn ar gyfer adeiladu ar y rhain mewn marchnad recriwtio sy'n fwyfwy cystadleuol."

Bydd yr Athro Grattan yn cyflawni rôl yr is-ganghellor dros dro hyd nes y bydd is-ganghellor newydd yn cymryd at y swydd. Bydd proses recriwtio allanol i benodi i'r rôl hon yn dechrau maes o law.