Tywydd yn achosi damweiniau ar hyd y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n cynghori gyrwyr i gymryd gofal yn dilyn nifer fawr o ddamweiniau traffig ar hyd a lled y gogledd ddydd Llun.
Rhwng 07:00 a 13:00 derbyniodd yr heddlu 69 adroddiad o wrthdrawiadau ar y ffyrdd ac mae swyddogion yn gofyn i'r cyhoedd gadw llygad ar ragolygon y tywydd a chyflwr y ffyrdd cyn teithio.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Alex Goss o Heddlu Gogledd Cymru: "Yn gyntaf fe hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd y bore 'ma.
"Fe welson ni gynnydd aruthrol yn y galwadau i'n hystafell reoli dros chwe sir y gogledd.
"O ganlyniad i ddau wrthdrawiad cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol ac rydym yn gobeithio y bydd y ddau'n gwella'n fuan.
"Mae ymchwiliadau'n parhau i geisio darganfod beth oedd achos y gwrthdrawiadau hyn.
"Mae disgwyl i'r tywydd oer barhau ac felly rwy'n erfyn ar yrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd a gyrru yn unol â'r amgylchiadau. Mae angen i yrwyr ychwanegu amser teithio ar gyfer pob siwrne a chadw llygad ar adroddiadau'r tywydd yn eu hardaloedd."