Ewrop: Carwyn Jones a Nigel Farage yn ffraeo am ddur a swyddi
- Cyhoeddwyd
Aled ap Dafydd yn crynhoi prif bwyntiau'r ddadl
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones ac arweinydd UKIP Nigel Farage wedi ffraeo ynghylch dyfodol y diwydiant dur fel rhan o ddadl ynglŷn â dyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Mr Jones y byddai gadael yr Undeb yn golygu "goblygiadau dychrynllyd" i Gymru, a gofynodd i Mr Farage beth oedd o wedi gwneud i helpu'r diwydiant dur fel rhywun sydd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd.
Roedd Mr Farage yn honni fod aelodaeth o'r UE wedi gadael y prif weinidog yn "ddiymadferth" ar y mater.
Bu'r ddau yn mynd benben o flaen cynulleidfa o 400 o bobl mewn dadl awr o hyd, oedd wedi ei threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig.
Bu Mr Farage hefyd yn dadlau y byddai gan Brydain fwy o reolaeth dros yr economi y tu allan i'r UE.
Yn ystod ei araith agoriadol, gofynodd arweinydd UKIP a oedd Prydain eisiau "adennill annibyniaeth fel gwladwriaeth" neu a oedd hi'n hapus i fod yn "aelod eilradd o'r clwb."
Dywedodd Mr Farage mai "codi bwganod" oedd dweud y byddai masnach yn stopio a swyddi yn diflannu petai Prydain yn gadael yr UE.
'Cymru lewyrchus'
Ond ymateb Carwyn Jones oedd bod aelodaeth o'r UE a'r Deyrnas Unedig yn hanfodol i Gymru lewyrchus.
Dywedodd bod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn ddibynnol ar fasnach yr UE ac y byddai gadael yn golygu "goblygiadau dychrynllyd".
Wrth gyfeirio at ddyfodol y diwydiant dur, dywedodd y prif weinidog nad oedd problemau'r diwydiant yn ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd.
Costau uchel ynni, gormodedd o ddur yn y farchnad fyd eang, a phunt gref oedd yn brifo'r diwydiant, meddai.
'Dim grym'
Fe darodd Mr Farage yn ôl, gan honni nad oedd gwleidyddion yng Nghymru a San Steffan wedi llwyddo i ddiogelu'r diwydiant rhag allforion rhad China.
"Wnaethoch chi ddim gwneud hyn, nid oherwydd nad oeddech chi eisiau, ond am nad yw'r grym gennych chi am ein bod ni wedi ei roi ffwrdd i Frwsel."
Fe ymosodd Mr Jones ar record arweinydd UKIP, gan ddweud ei fod ond wedi mynychu un cyfarfod ynglŷn â physgodfeydd yn y Senedd Ewropeaidd.
"Y realiti yw nad ydych chi'n llais cryf ar gyfer buddiannau Prydain," meddai wrth Mr Farage.
Ond ymateb arweinydd UKIP oedd: "Pe bydden i'n treulio pob munud yn fanno, fydden i ddim wedi cael dadlau na phleidleisio ar y materion sy'n effeithio ar bysgodfeydd - does gan y Senedd ddim y pŵer yna."
Ymateb y pleidiau
Wrth ymateb i'r ddadl dywedodd yr Aelod Cynulliad Eluned Parrott nad oedd yr un o'r ddau wleidydd wedi gwneud argraff a fod gan Carwyn Jones safbwynt gwahanol i arweinydd Llafur yn San Steffan, Jeremy Corbyn.
"Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r unig blaid Brydeinig sydd yn unedig yn y gred y dylen ni aros yn aelod llawn, ymroddedig yn yr Undeb Ewropeaidd.
"Byddwn ni yn ymladd y referendwm trwy hybu y buddiannau y mae bod yn aelod o'r UE yn dod i Gymru: y miloedd o swyddi o'r byd amaeth i ddiwydiant, a'r swm anferth o arian ychwanegol rydyn ni yn cael fyddai ddim yn bodoli os y bydden ni yn gadael yr UE.
"Rydyn ni yn ymladd i fod yn ran o'r Undeb Ewropeaidd, dim achos bod hi'n berffaith ond am fod Cymru mewn sefyllfa well trwy fod yn rhan ohoni."
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Mawrth, dywedodd Elin Jones A.C., dirprwy arweinydd Plaid Cymru: "Fe roedd hi'n ddadl siomedig, a llawer rhy ffyrnig ar adegau, lle roedd y dadleuon - y rhai gwleidyddol, y rhai economaidd - ddim yn cael eu dadlau'n llawn.
"Wrth gwrs dau lais yn unig oedd yna, a dwi'n credu y byddai'r ddadl wedi cael ei gwella os bydde na leisiau amgen yna hefyd. Dim o angenraid lleisiau gwleidyddol a phleidiau gwleidyddol amgen, ond fe ddylid fod wedi cymryd y cyfle i roi lleisiau busnes, lleisiau amaethyddol, lleisiau economaidd - pob arall sydd gyda diddordeb - a dweud y gwir pobl sydd gyda mwy o ddiddordeb yn nyfodol yr Undeb Ewropeaidd na beth ddylie fod gan wleidyddion."
Cyn y ddadl mi ddywedodd llefarydd ar gyfer y blaid Geidwadol yng Nghymru fod y noson yn teimlo fel ryw "sbectacl gorliwgar" ac fod Mr Jones ddim wedi gwahodd arweinwyr y gwrthbleidiau i gymryd rhan mewn dadleuon tebyg ynglŷn â materion yng Nghymru.
Mae disgwyl i refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd gael ei gynnal cyn diwedd 2017.
Ddydd Sul fe awgrymodd y Prif Weinidog David Cameron y gallai'r bleidlais gael ei chynnal yr haf yma.