Milwr Deepcut: Ecsbloetio yn rhywiol?

  • Cyhoeddwyd
Pte Cheryl James
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Cheryl James ym Marics Deepcut yn Surrey yn 1995

Mae cwest wedi clywed y gallai milwr o Gymru, fu farw ym Marics Deepcut yn Surrey dros 20 mlynedd yn ôl, fod wedi cael ei hecsbloetio yn rhywiol gan uwch swyddogion.

Roedd y Preifat Cheryl James yn un o bedwar milwr fu farw yn y barics rhwng 1995 a 2002 yng nghanol honiadau o fwlio a cham-drin.

Bu farw'r milwr 18 oed o Langollen, Sir Ddinbych, ar ôl cael anaf bwled i'w phen yn 1995.

Mae cyfreithwyr ei theulu eisiau i gwest newydd i'w marwolaeth ystyried ffactorau ehangach.

Dywedodd Aliston Foster, sy'n cynrychioli'r teulu James, wrth wrandawiad cyn i'r cwest ddechrau yn Llys y Crwner Woking fod yna ddeunydd yn awgrymu y "gallai hi fod wedi ei gorfodi yn rhywiol neu ei threisio'r noson gynt, neu cyn amser ei marwolaeth."

Meddai: "Mae 'na honiad uniongyrchol nawr y gallai Cheryl fod wedi cael gorchymyn i gysgu gyda'r person yr ydyn ni'n galw yn Dyst A, a hynny gan rywun oedd mewn rheng uwch na hi.

"Nid cyfeillachu ydy hynny. Nid perthynas rywiol anghyfreithlon rhwng dau o bobl o rengoedd gwahanol yw hyn. Mae hyn yn rhywbeth gwahanol iawn."

Mae disgwyl i gwest newydd i farwolaeth y Preifat James ddechrau ar 1 Chwefror, fydd yn para saith wythnos.

Daeth gorchymyn i gynnal cwest o'r newydd wedi i farnwr yn yr uchel lys wrthod y rheithfarn agored a gafodd ei chofnodi ym mis Rhagfyr 1995.

Bu farw'r Priefat Sean Benton, y Preifat James Collinson a'r Preifat Geoff Gray hefyd o anafiadau gwn ym marics Deepcut.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae ail gwest i farwolaeth y Preifat James ar fin dechrau