Pryder am ddyfodol canolfan i oedolion ym Mhenfro

  • Cyhoeddwyd
Canolfan

Fe allai canolfan i oedolion ag anableddau dysgu gau yn Sir Benfro wrth i'r cyngor chwilio am ffyrdd o arbed arian.

Mae canolfan The Avenue yn Ninbych y Pysgod yn costio £350,000 y flwyddyn i'w rhedeg, ond fe fyddai'n costio'r un faint o arian i foderneiddio'r ganolfan meddai Cyngor Penfro.

Dywed ymgyrchwyr fod y ganolfan yn hollbwysig i'r 38 o bobl sydd yn defnyddio'r ganolfan.

Fe fydd penderfyniad am ddyfodol y ganolfan yn cael ei wneud wedi ymgynghoriad cyhoeddus, fydd yn dod i ben fis nesaf.

Daw hyn yn dilyn newid yn y gyfraith sydd yn golygu newidiadau sylweddol i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

Bwriad y Ddeddf Gwasanaethau a Lles yw ceisio hybu cydweithio, gyda mwy o ddylanwad yn dod gan elusennau o fewn y cymunedau.

Mae Maggie Schofield, 53 oed, sydd â chyflwr Downs, wedi bod yn mynychu'r ganolfan ers 37 o flynyddoedd. Dywedodd ei efaill Kate: "Mae'r ganolfan yn hanfodol. Hebddi, ni fyddai gan fy chwaer rwydwaith cymdeithasol, a dim ffordd o fod yn annibynnol.

"Dyma yw ei bywyd i bob pwrpas. Mae hi'n mynd yno bum gwaith yr wythnos. I Maggie mae'r un fath a chael swydd."

Disgrifiad o’r llun,
Dywed Kate Schofield (chwith) fod y ganolfan yn hanfodol i'w efaill Maggie Schofield (dde)

Dywedodd cyfarwyddwr elusen Mencap Cymru Wayne Crocker: "Fy mhryder i am yr hyn fydd yn digwydd yn Ninbych y Pysgod yw os ydi pobl yn derbyn gwasanaeth yn eu cymunedau, sut y mae'r awdurdod lleol hwnnw'n sicrhau eu bod yn parhau gyda'r berthynas honno, gyda'r cyfeillgarwch sydd wedi bodoli ers 10 neu 20 o flynyddoedd?".

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Penfro: "Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gorfod cwtogi nifer y canolfanau dydd yr ydym yn ei reoli.

"Rydym wedi symud i gefnogi pobl mewn ffyrdd gwahanol; gan eu helpu i ddatblygu perthynas o fewn eu cymunedau lleol ac i fyw mor annibynnol â phosib.

"Mae disgwyl y bydd cynnydd yn nifer y bobl fydd angen cefnogaeth yn y dyfodol, yn enwedig pobl gydag anghenion cymleth.

"Fe fyddwn yn cael trafferth i ateb gofynion yr holl bobl hyn os byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth drwy'r canolfanau'n unig, yn y dull yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd."