Rhybudd am lifogydd arfordirol yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobl i gymryd gofal gan fod peryg y gallai tonnau mawr a llanw uchel achosi rhywfaint o lifogydd o amgylch arfordir gogledd Cymru.
Fe allai'r tonnau mwyaf daro arfordiroedd Sir Ddinbych a Chonwy a gogledd a dwyrain Sir Fôn yn gynnar brynhawn ddydd Mawrth.
Dywedodd Rick Park, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Gall tonnau mawr effeithio a heolydd arfordirol, promenadau ac adeiladau y ystod y prynhawn a rydym yn gofyn pobol i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal, yn arbennig yn ystod adeg llanw uchel rhwng 10:30 a 14:00."
Mae rhybuddion llifogydd i'w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae modd dod o hyd i wybodaeth drwy ffonio llinell Floodline ar 0345 988 1188.