Angen cael 'cyfranddaliad' yn y diwydiant dur
- Cyhoeddwyd

Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar y posibilrwydd o gael "cyfranddaliad dros dro yn y diwydiant dur yng Nghymru", yn ôl un o aelodau Plaid Cymru yn y Cynulliad.
Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod am weld tasglu'n cael ei sefydlu er mwyn edrych ar ffyrdd i ddiogelu swyddi yn y diwydiant.
Mae 'na ddyfalu wedi bod am ddyfodol swyddi cannoedd o weithwyr dur cwmni Tata ym Mhort Talbot, sydd mewn peryg o gael eu diswyddo os bydd y cwmni'n gweithredu cynllun ailstrwythuro sylweddol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Mae effaith posib cau Port Talbot yn llwyr, ynghyd â safleoedd eraill ledled Cymru, sydd yn cyflogi dros 20,000 yn uniongyrchol a thrwy gadwyni cyflenwi, a'i gyfraniad i'n GVA, yn rhy ofnadwy i'w ddychmygu.
"Dydw i ddim yn credu y gall Llywodraeth Cymru barhau i fod yn sylwebyddion disymud wrth i'r sefyllfa barhau i ddirywio, ac yr wyf felly yn galw am sefydlu tasglu a fydd yn mynd ati ar unwaith i archwilio pob dewis o ran amddiffyn ein diwydiant dur yng Nghymru.
'Cyfranddaliad'
"Pan wyf yn sôn am bob dewis, rwy'n credu fod set o atebion posib yn gorfod cynnwys archwilio'r posibilrwydd o Lywodraeth Cymru yn cymryd cyfranddaliad dros dro yn y diwydiant dur yng Nghymru os digwydd i gyhoeddiad sydyn am gau gael ei wneud."
Ychwanegodd: "Mae cynsail i hyn yn yr Eidal a'r Almaen, lle mae cymhorthdal cymorth gwladwriaethol i gwmnïau dur dan berchnogaeth breifat wedi'i wahardd, ond mae cymryd cwmni dur i berchnogaeth rannol neu gyfan gwbl gyhoeddus er mwyn diogelu swyddi yn cael ei ganiatáu.
"Dylid troi pob carreg mewn perthynas ag archwilio'r opsiynau ar gyfer diogelu'r swyddi hyn", meddai.
Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.