Llofruddiaeth Llanrhymni: Cyhoeddi enw dyn
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi enwi dyn fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llanrhymni, Caerdydd.
Cafwyd hyd i gorff Robert Sadler, 59 oed, yn ei gartref ar Heol Llanrhymni ar fore Sul, 10 Ionawr.
Mae dynes 27 oed gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddio wedi ei throsglwyddo i ofal y gwasanaeth iechyd ac mae hi wedi ei chadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Yn y cyfamser, mae teulu'r dyn yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol yr heddlu tra bod ymchwiliad i'w farwolaeth yn parhau.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod *010078, neu yn ddienw ar 0800 555111.