Rhybudd i ysgolion am grwpiau eithafol
- Cyhoeddwyd

Mae ysgolion yng Nghymru wedi eu rhybuddio i adnabod arwyddion pan fod disgyblion yn dod o dan ddylanwad grwpiau eithafol.
Mae pryder cynyddol am ddylanwad grwpiau jihadaidd eithafol wedi arwain at newidiadau yn y cyfarwyddyd i ddiogelu plant.
Dywed yr argymhellion newydd fod achosion 41 o bobl ifanc o dan 18 oed wedi eu cyfeirio at yr heddlu yn y tair blynedd ddiwethaf ymysg pryderon eu bod mewn peryg o gael eu dylanwadu gan eithafwyr.
Mae'r awdurdodau wedi gofyn i athrawon gadw llygad am arwyddion o unrhyw newidiadau yn ymddygiad disgyblion, ag i fod yn ymwybodol o dargedu disgyblion ar wefannau cymdeithasol.
Mae trafferthion yn y dwyrain canol yn ymwneud â'r Wladwriaeth Islamaidd wedi cynyddu'r pwyslais ar hybu diogelwch ac undod mewn cymunedau. Cafodd y ddogfen wreiddiol yn amlinellu hyn, o dan yr enw 'Parch a Gwydnwch' ei chyhoeddi yn 2011.
Argymhellion
Mae'r argymhellion yn galw ar staff i fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau mewn ymddygiad, edrychiad, cylch ffrindiau ag agweddau mewn plant, tra'n osgoi cyffredinoli a stereoteipiau.
Mae Deddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar ysgolion i "gymryd sylw o'r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth".
Yn 2014 fe wnaeth yr academydd Dr Suraj Lakhani o Brifysgol Caerdydd rybuddio am radicaleiddio Mwslemiaid ifanc wedi i ddau ddyn ifanc ymddangos mewn fideo jihadaidd.
Cafodd un o'r dynion, Reyaad Khan, 21 oed, ei ladd yn ddiweddarach yn Syria ym mis Awst 2015 mewn cyrch gan yr awyrlu.