Shelvey'n gadael yr Elyrch
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed Newcastle wedi cytuno ar bris o £12 miliwn am chwaraewr canol cae Abertawe, Jonjo Shelvey.
Mae'r BBC ar ddeall y bydd Shelvey'n cael prawf meddygol gyda'r clwb o'r gogledd ddwyrain cyn y bydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau.
Mae'r chwaraewr rhyngwladol 23 oed o Loegr wedi cael tymor anwastad yn Stadiwm Liberty, ac mae sibrydion fod ei ddyfodol gyda'r Elyrch wedi bod yn ansicr ers tro.
Ef fydd y chwaraewr cyntaf i adael Abertawe ers i Alan Curtis gael ei benodi'n rheolwr dros dro tan ddiwedd y tymor yn dilyn ymadawiad Garry Monk.
Credir nad Shelvey fydd yr unig chwaraewr i adael Abertawe yn ystod y ffenest drosglwyddo sy'n para tan ddiwedd Ionawr.