Cymru i herio'r Iwcraen
- Cyhoeddwyd

Ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Yr Iwcraen mae cadarnhad y bydd Cymru'n teithio i'r wlad ar gyfer gêm gyfeillgar ar 28 Mawrth.
Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau'r trefniant hyd yma er bod sïon ar led ers tro bod y gêm yn mynd i ddigwydd.
Bydd y gêm yn rhan o baratoadau Chris Coleman ar gyfer cystadleuaeth Euro 2016 ym mis Mehefin.
Fe wnaeth Yr Iwcraen gymhwyso ar gyfer Euro 2016 drwy'r gemau ail-gyfle gan guro Slofenia 3-1 ar gyfanswm goliau dros ddau gymal.
Fe orffennon nhw'n drydydd yn eu grŵp yn y rowndiau rhagbrofol y tu ôl i Slofacia - fydd yn yr un grŵp a Chymru yn Euro 2016 - a phencampwyr presennol Ewrop, Sbaen.
Yn y gystadleuaeth yn Ffrainc, fe fydd Cymru yn Grŵp B gyda Slofacia, Lloegr a Rwsia.
Straeon perthnasol
- 12 Rhagfyr 2015