Dyn yn gwadu llofruddiaeth Nadine Aburas
- Cyhoeddwyd

Mae Sammy Almahri yn gwadu llofruddio Nadine Aburas
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ladd menyw o Gaerdydd dros flwyddyn yn ôl.
Cafwyd hyd i gorff Nadine Aburas yng ngwesty'r Future Inn yng Nghaerdydd ar 31 Rhagfyr, 2014.
Mae Sammy Almahri, 44 oed a dinesydd yr Unol Daleithiau, yn gwadu llofruddio Ms Aburas.
Fe gafodd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd ei ohirio tan 25 Ionawr ac mae Mr Almahri yn y ddalfa.