Williams allan o'r Meistri

  • Cyhoeddwyd
mark williamsFfynhonnell y llun, PA

Mae'r Cymro Mark Williams wedi colli yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Meistri Snwcer y DU wedi gêm gyffrous yn erbyn Ronnie O'Sullivan.

Fe ddechreuodd pethau'n wael i Williams wrth iddo golli'r ddwy ffrâm gyntaf, ond yna cafodd rediad o bedair ffrâm i fynd 4-2 ar y blaen.

Mae O'Sullivan wedi bod yn bencampwr ar bum achlysur, ac fe ddangosodd ei allu wrth gipio'r tair nesaf i fynd 5-4 ar y blaen.Ond wedi i O'Sullivan fethu coch gymharol hawdd, fe gipiodd Williams y ddegfed ffrâm i'w gwneud hi'n gyfartal, a sicrhau fod popeth yn dibynnu ar y ffrâm olaf.

Aeth Williams ar y blaen yn honno o 28-0, ond yn dilyn chwarae diogel gan y ddau fe fanteisiodd O'Sullivan ar gyfle i wneud rhediad oedd yn ddigon i gipio'r ffrâm a'r ornest.

Bydd O'Sullivan yn wynebu enillydd y gêm rhwng Mark Selby a Ricky Walden yn rownd yr wyth olaf.