Methu gwneud y maths?
- Cyhoeddwyd

Faint ohonoch chi sy'n chwys oer pan rydych chi'n dod ar draws pos mathemategol neu'n gweld algebra fel iaith estron? Oes angen i ni fod â chymaint o ofn?
Mae'r Dr Gareth Evans yn athro Mathemateg yn Ysgol y Creuddyn, Llandudno, ac ar ei flog mathemateg.com mae'n sôn am rai o'r rhesymau pam ein bod fel Cymry yn swil pan mae hi'n dod at feysydd fel rhifyddeg a geometreg.
Mewn erthygl i Cymru Fyw mae o'n egluro pwysigrwydd mathemateg i'n bywydau bob dydd ac yn ein herio i fynd i'r afael â'r ffigyrau 'na:
Gêm o risg
Yn ddiweddar, daeth y cyfle i ennill dros £66 miliwn yn y Loteri - y jacpot mwyaf erioed ers dechrau'r gystadleuaeth. Fel llawer o bobl, prynais fy nhocyn a dechrau breuddwydio... cyn cael fy siomi wrth i'r peiriant ddewis rhifau hollol wahanol i'r rhai oedd gen i!
Ar wefan Twitter, gwelais fod rhai pobl yn beirniadu mathemategwyr a oedd yn prynu tocynnau loteri, gan eu cymharu efo meddygon a oedd yn ysmygu.
I mi, fodd bynnag, roedd y ddau beth yn hollol wahanol - risg fechan ar gyfer elw mawr sy'n trawsnewid bywyd, yn erbyn elw bychan ar gyfer risg mawr sy'n trawsnewid bywyd.
Ar fore'r Lotto mawr, roedd y newyddion yn llawn straeon ble'r oedd mathemategwyr yn egluro'r siawns o ennill y jacpot, neu'n ceisio awgrymu ffyrdd o wella eich siawns o ennill y jacpot.
Yn anffodus, roedd llawer o'r straeon yma'n defnyddio'r ystrydeb o'r mathemategwr fel y mad scientist, gyda gwybodaeth na all y cyhoedd ei ddeall yn hawdd.
Mewn gwirionedd, mae mathemateg yn rhywbeth sy'n llawer mwy perthnasol i fywyd pob dydd - ac yn cael ei ddefnyddio'n aml gan bobl heb iddyn nhw sylwi!
Algebra a T.H.Parry-Williams
Cymerwn algebra fel enghraifft. Mae llawer o bobl yn ofni'r testun yma, neu yn ei weld yn amherthnasol fel y gwelwn ni yn nhrydariad y sylwebydd pêl-droed Owain Tudur Jones:
Yn aml, rwy'n clywed pobl yn dweud nad ydyn nhw wedi defnyddio algebra ar ôl gadael yr ysgol, felly beth oedd y pwynt ei wneud?
Un ddadl yn ôl fyddai dweud fy mod wedi gorfod dysgu'r geiriau i 'Hon' gan T.H. Parry-Williams fel rhan o arholiad Cymraeg, ond byth wedi gorfod defnyddio'r geiriau ers gadael yr ysgol. Felly beth oedd y pwynt ei wneud?
Byddai athro Cymraeg yn siŵr o ddweud nad y broses o ddysgu'r geiriau a oedd yn bwysig yn fan hyn, ond dysgu am y negeseuon y tu ôl i'r gerdd. Felly beth am algebra?
Yma, buaswn yn dadlau fod gwneud algebra yn ein dysgu sut i wneud prosesau cymhleth, gan wneud pethau yn y drefn gywir ac ar yr adeg cywir.
Mae'r sgiliau yma'n bwysig ac mae'n bosib eu defnyddio mewn meysydd eraill; onid dyma mae cogydd yn ei wneud pob dydd? Mae algebra hefyd yn ein dysgu sut i ddatrys problemau - rhywbeth mae plymwyr, trydanwyr a pheiriannwyr ceir yn ei wneud yn rheolaidd.
Felly'r prosesau y tu ôl i'r llen sy'n bwysig wrth wneud algebra, nid bod rhywun ddim yn defnyddio, er enghraifft, Theorem Pythagoras ar ôl gadael yr ysgol.
Methu g'neud maths?
Pam felly fod hi'n fwy derbyniol dweud "dwi'n methu g'neud maths" tra bod yr ymadrodd "dwi'n methu darllen" yn llai cyffredin? Yn wir, pam fod rhai pobl yn brolio ac yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn methu gwneud mathemateg?
Un rheswm posib yw bod mwy o bobl yn y wlad yn "methu gwneud maths" o'i gymharu â'r nifer sy'n "methu darllen".
Efallai bod rhywun yn gallu uniaethu'n well efo rhywun sy'n bod yn negyddol tuag at fathemateg, gan fod llai o bobl yn y wlad efo sgiliau da ynddo?
Nid bod hyn yn rheswm i gyfiawnhau agwedd negyddol tuag at y pwnc. Credir bod £20 biliwn yn cael ei golli i economi y DU pob blwyddyn oherwydd diffyg sgiliau rhifedd.
Fel athro mathemateg, fy ngwaith yw ceisio datblygu'r sgiliau yma yn y genhedlaeth ifanc. At y dibenion yma, rwyf wedi cymryd diddordeb diweddar yng ngwaith yr athro seicoleg Carol Dweck o'r UDA.
Mae hi'n credu mai ein meddylfryd sy'n arwain at lwyddiant, nid gallu na thalent naturiol. Mewn meddylfryd sefydlog, mae pobl yn credu nad yw eu gallu mewn pwnc, dywed mathemateg, yn medru newid.
Yn y meddylfryd twf fodd bynnag, mae pobl yn credu bod eu gallu mathemategol yn medru newid trwy ymroddiad cyson a gwaith caled. Rwy'n credu y gall unrhyw un ddatblygu sgiliau mathemategol gyda'r ymdrech a'r agwedd gywir, sgiliau sy'n agor llawer o ddrysau yn y dyfodol.