Ymchwilio i farwolaeth menyw 29 oed yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Cafodd y fenyw ei darganfod mewn tŷ yn Heol Elfed yn Llanelli
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i farwolaeth menyw 29 oed gafodd ei darganfod yn Llanelli ar 11 Ionawr.
Cafodd y fenyw ei darganfod mewn tŷ yn Heol Elfed.
Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth yn un heb ei hesbonio ar hyn o bryd.
Mae'r teulu a'r crwner wedi cael gwybod.