Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 43 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn yn Sir Ddinbych.
Roedd dyn 24 oed wedi ei drywanu yn Lôn Ceiriog, Prestatyn, ddydd Llun, 4 Ionawr.
Cafodd driniaeth yn yr ysbyty ond mae wedi ei ryddhau.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn 43 oed wedi ei arestio nos Lun.