Cais am dai ym Mangor: Cyfeirio'r mater yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Codi 245 o dai

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyfeirio'r mater yn ôl ar ôl trafod cais i adeiladu 21 o dai ychwanegol ym Mhenrhosgarnedd ger Bangor.

Roedd cais datblygwyr Redrow ar y safle yn y Goetre Uchaf ble maen nhw'n codi 245 o dai yn barod.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Adroddwyd cais Goetre Uchaf i'r pwyllgor cynllunio ar 11 Ionawr a bwriad y pwyllgor oedd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad swyddogion, gan gyfeirio at bryderon am yr angen am dai, effaith ar yr iaith Gymraeg a phryderon trafnidiaeth.

"Ym marn yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ac Amgylchedd," meddai, "mae risg sylweddol i'r cyngor o ran y penderfyniad i wrthod y cais yn groes i argymhelliad swyddogion.

"Felly cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil yn unol â rheolau sefydlog y pwyllgor."

Bydd y cais yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r pwyllgor cynllunio er mwyn amlygu'r materion polisi cynllunio, risgiau posib a'r opsiynau posib i'r pwyllgor cyn penderfyniad terfynol.

Cafodd Redrow ganiatâd cynllunio ar gyfer 245 o dai ar y safle yn 2013.

Dywedodd llefarydd fod y cais diweddara' oherwydd galw am dai o faint canolig.