UKIP yn cyhuddo Plaid Cymru o fod yn 'ddi-chwaeth'

  • Cyhoeddwyd
wood
Disgrifiad o’r llun,
Mae UKIP wedi cyhuddo Leanne Wood o ddefnyddio geiriau "di-chwaeth a di-sail"

Mae UKIP wedi cyhuddo arweinydd Plaid Cymru o ddefnyddio geiriau "di-chwaeth a di-sail".

Daw'r honiad ar ôl i Leanne Wood ddisgrifio Nigel Farage fel "llais y dde eithafol" yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.

Ond dywedodd Plaid Cymru fod agwedd UKIP yn seiliedig ar "raniadau" ac ar draul "pobl fregus".

Fe ofynnodd Ms Wood wrth Carwyn Jones yn y Senedd: "Prif Weinidog, neithiwr fe wnaethoch chi gymryd rhan yn y ddadl gyntaf ar ddyfodol Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

"Fe aethoch benben gyda llais y dde eithafol.

"Ydych chi'n meddwl bod eich perfformiad wedi gwneud drwg neu les i'r ymgyrch dros aros o fewn yr undeb?"

Disgrifiad o’r llun,
Dadleuodd Nigel Farage dros adael yr Undeb Ewropeaidd nos Lun

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd UKIP: "(Mae hyn) yn embaras iddi hi, does gan Leanne Wood ddim syniad o'r derminoleg wleidyddol y mae hi'n ddefnyddio, mor ddi-chwaeth ac mor anaeddfed, drwy labelu gwleidydd sy'n ymladd am sofraniaeth Prydain yn erbyn rheolaeth dramor anetholedig, er mwyn rhoi buddiannau dynion a merched y Deyrnas Unedig gyntaf, fel y 'dde eithafol'.

"Efallai y dylai feddwl yn ofalus am siâr ei phlaid o'r bleidlais yn yr Etholiad Cyffredinol, 0.6%, o'i chymharu â chefnogaeth UKIP oedd 21 gwaith yn uwch, gan wneud UKIP y drydedd blaid fwyaf boblogaidd yn y Deyrnas Unedig, cyn defnyddio labeli di-chwaeth a di-sail i gyhuddo plaid sy'n cael ei chefnogi gan 4 miliwn o bleidleiswyr fel cynrychioli'r eithafiaeth neu wleidyddiaeth niche."

Wedyn dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae naratif gwleidyddol UKIP yn seiliedig ar raniadau ac ar draul pobl fregus.

"Plaid Cymru yw'r blaid i bawb yng Nghymru, yr unig blaid sy'n cynnig y newid positif sydd ei angen ar Gymru ym maes iechyd, economi ac addysg."