Teledu lleol: Bryn Roberts wedi gadael ei swydd
- Cyhoeddwyd

Mae pennaeth gorsaf deledu leol Caerdydd wedi gadael ei swydd, meddai'r cwmni.
Fe adawodd Bryn Roberts, cyn reolwr gyfarwyddwr cwmni Barcud Derwen, ei rôl gyda Made in Cardiff wythnos ddiwethaf.
Mae Huw Owen, cynhyrchydd chwaraeon gyda'r orsaf, hefyd wedi gadael ei swydd, yn ôl Made TV, sy'n gyfrifol am sianeli lleol yn y Deyrnas Unedig.
Doedd Mr Roberts ddim yn fodlon gwneud sylw ar y mater pan gysylltodd Cymru Fyw ag ef.
Made in Cardiff oedd y sianel deledu leol gyntaf o'i bath yng Nghymru pan lansiwyd hi ym mis Hydref 2014.
Mae'r orsaf, sydd wedi'i hariannu'n rhannol gan ffi drwydded y BBC, yn cynhyrchu rhaglenni newyddion ac adloniant.
Dywedodd Dave McCormack, Prif Swyddog Gweithredol Made TV, wrth BBC Cymru Fyw: "Fe alla i gadarnhau bod Bryn Roberts a Huw Owen wedi gadael eu swyddi gyda Made in Cardiff.
"Fe adawodd y ddau ar delerau da ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw yn y dyfodol."
Ychwanegodd ei fod yn "ddiolchgar iawn" i Mr Roberts am oruchwylio lansiad y sianel yn ystod blwyddyn gyntaf "allweddol".
Rheolwr gorsaf Made in Bristol, Chris James, fydd yn gyfrifol am honno a Made in Cardiff yn y dyfodol.
Cafodd sianeli lleol eu creu ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig benderfynu ceisio efelychu llwyddiant gorsafoedd tebyg yn America.
Mae disgwyl i ddwy orsaf leol arall lansio yng Nghymru - yn Abertawe a'r Wyddgrug - ond mae lle i gredu bod oedi yn y broses.