A55: Storm genllysg yn achosi damweiniau
- Cyhoeddwyd

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i ddelio â dau wrthdrawiad ar ffordd yr A55 yn Sir Ddinbych yn gynharach, wedi i storm genllysg bwerus daro'r ardal.
Cafodd ffordd ddwyreiniol yr A55 ei chau am gyfnod wedi gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd ar Allt Rhuallt rhwng cyffyrdd 28 a 29.
Digwyddodd yr ail ddamwain rhwng dau gerbyd ar ochr orllewinol y ffordd yn yr un ardal.
Achosodd y ddau ddigwyddiad oedi hir.
Achub gwraig o gerbyd
Hefyd nos Fawrth, cafodd gwraig ei hachub o gerbyd ar ôl mynd i drafferthion mewn dŵr.
Cafodd criwiau tân ac achub eu galw i ffordd y B5429 yn Llanbedr Dyffryn Clwyd ger Rhuthun.
Llwyddodd swyddogion tân i'w rhyddhau a doedd dim angen triniaeth ysbyty arni.
Mae'r tywydd wedi achosi llawer o drafferthion yn ddiweddar. Ddydd Llun, achosodd y tywydd 69 o ddamweiniau ar hyd y gogledd.