Cymeradwyo cynllun tai Llanbadarn er gwaetha pryderon
- Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr Ceredigion yn trafod y cais cynllunio ddydd Mercher
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cais i adeiladu 48 o dai yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, er gwaetha pryderon lleol y gallai gynyddu'r perygl o lifogydd.
Cafodd pryderon am y llifogydd diweddar eu codi yn ystod y cyfarfod, ond rhoddwyd sicrwydd y bydd tanc dŵr 300 medr ciwbig ac offer arall yn cael eu gosod fel rhan o'r datblygiad er mwyn lleihau'r perygl a gwella'r sefyllfa bresennol.
Mae'r pentref wedi dioddef llifogydd sawl gwaith wrth i afon Rheidol orlifo, ac roedd rhai'n poeni y gallai'r bygythiad o lifogydd gynyddu petai caeau'n cael eu troi'n ystâd.
Roedd eraill yn gwrthwynebu'r cynllun oherwydd yr effaith ar draffig.
Ffynhonnell y llun, Arall
Effaith y glaw trwm ar Lanbadarn Fawr dros gyfnod y Nadolig
Ffynhonnell y llun, Arall