Galw am amddiffyn addysg i oedolion
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i aelodau undeb Unsain wrthdystio y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin ddydd Mercher yn sgil cynlluniau i dorri nôl ar ddosbarthiadau addysg i oedolion.
Dywed Cyngor Sir Gaerfyrddin fod angen gwneud arbedion gan eu bod wedi derbyn toriad o £289,000 yn y grant sydd yn dod o goffrau llywodraeth Cymru.
Oherwydd hynny dywed y cyngor y byddant yn canolbwyntio ar gyrsiau sydd yn gwella sgiliau sylfaenol fel llythrennedd a rhifedd.
Ni fydd gwersi dysgu oedolion eraill yn y gymuned fel y celfyddydau, ieithoedd a chyfrifiadureg yn cael ei ddarparu ar ôl 31 Mawrth eleni chwaith.
Bydd costau o gynnal a chadw Canolfan Cennen yn Rhydaman a Chanolfan Cymunedol Addysg Felinfoel yn dod i ben ar yr un dyddiad.
Fe fydd aelodau Unsain yn pwyso ar gynghorwyr i wrthdroi'r toriadau