C&A: Pam nad yw meddygon iau Cymru'n mynd ar streic?
- Cyhoeddwyd

Mae ysbytai yn Lloegr wedi wynebu cryn drafferthion yn sgil streic gan feddygon iau, sy'n anghytuno gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chytundebau gwaith newydd.
Pam nad yw meddygon yng Nghymru'n streicio?
Am fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi'i ddatganoli. Ers 1999, Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yr ochr yma i Glawdd Offa.
Gweinidogion yng Nghaerdydd sy'n gyfrifol am drafod amodau meddygon sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru.
Am y tro, mae Llywodraeth Cymru, fel y weinyddiaeth yn yr Alban, yn dweud eu bod yn bwriadu parhau â'r cytundeb presennol i feddygon iau.
Felly roedd meddygon yng Nghymru'n gweithio diwrnod arferol wrth i'w cydweithwyr yn Lloegr fynd ar streic ddydd Mawrth, 12 Ionawr.
Felly a gaiff yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr unrhyw effaith ar y sefyllfa yng Nghymru?
Mae'r ffrae rhwng meddygon iau, y gwasanaeth iechyd yn Lloegr a Llywodraeth y DU yn hynod gymhleth.
Ond, yn gyffredinol, mae'n ymwneud â chyflwyno amodau gwaith newydd, sy'n cynnwys newid y ffordd mae meddygon iau yn cael eu talu am weithio ar benwythnosau.
Mae Llywodraeth y DU yn dadlau bydd y cytundebau newydd yn golygu y gall y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ddarparu gwell gofal saith niwrnod yr wythnos. Ond, yn ôl cymdeithas feddygol y BMA, fe fydd yn cynyddu'r pwysau ar feddygon iau ac yn arwain at lai o ofal diogel i gleifion.
Er bod 'na gynlluniau i wella gwasanaethau ar benwythnosau mewn rhannau eraill o'r DU, dyw'r cynlluniau ddim mor uchelgeisiol â'r rhai yn Lloegr.
Er enghraifft, mae Cymru'n canolbwyntio mwy ar wella'r ddarpariaeth ar gyfer profion diagnostig, fferyllfeydd a therapïau ar benwythnos, yn hytrach na chreu patrwm gwaith saith niwrnod ar draws y system gyfan.
Ond dyw hynny ddim yn golygu y gall Llywodraeth Cymru anwybyddu unrhyw newidiadau mawr a ddaw i amodau a chytundebau gwaith yn Lloegr.
Byddai'n anodd iawn i wasanaethau'r naill ochr i'r ffin a'r llall petai yna gytundebau hollol wahanol i staff sy'n gwneud swyddi tebyg.
Dyna pam fod y gweinidog iechyd yng Nghymru, yn fy marn i, wedi bod yn ofalus i beidio ag elwa yn wleidyddol o'r ffrae yn Lloegr.
Efallai bod Mark Drakeford yn ymwybodol y bydd yn rhaid iddo yntau gynnal trafodaethau anodd maes o law, fel y rhai sydd eisoes wedi bod ar gytundebau meddygon teulu ac ymgynghorwyr,
Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu y bydd unrhyw drafodaethau'n cael eu cynnal ar sail ysbryd o "bartneriaeth".
Ac ychydig wythnosau'n ôl, fe wnaeth Mr Drakeford annog meddygon iau a staff proffesiynol eraill i ystyried gweithio yng Nghymru os yn anhapus â'r sefyllfa yn Lloegr.
Fydd cleifion sy'n byw yng Nghymru'n gweld effaith yr hyn sy'n digwydd dros y ffin?
Fydd dim effaith ar fwyafrif y cleifion yng Nghymru.
Ond mae'n bosib bod cleifion o Gymru, sydd ag apwyntiadau gydag arbenigwyr yn Lloegr adeg unrhyw streic, yn wynebu trafferthion.
Efallai hefyd y bydd rhai unigolion - er enghraifft, pobl sy'n byw ger y ffin yn Sir Fynwy a Phowys ac sy'n mynd i ysbytai yn Lloegr oherwydd rhesymau daearyddol - yn gweld eu hapwyntiadau'n cael eu gohirio.
Ond bydd meddygon iau yn Lloegr yn darparu gwasanaethau brys adeg unrhyw streic - felly ddylai unrhyw wasanaethau brys gael sylw yn ôl yr arfer.
I ba raddau mae meddygon iau yng Nghymru'n cefnogi safbwynt y BMA yn Lloegr?
Yn gyffredinol, mae meddygon iau yng Nghymru'n cefnogi eu cydweithwyr yn Lloegr.
Meddai BMA Cymru: "Rydyn ni'n parhau i roi ein cefnogaeth lawn i gydweithwyr yn Lloegr. Un proffesiwn ydyn ni ac rydyn ni'n sefyll gyda'n gilydd. Ar draws y DU, mae'r BMA eisiau cytundebau sy'n deg i feddygon, yn ddiogel i gleifion ac sy'n gwarchod dyfodol y gwasanaeth iechyd ym mhobman. Mae agwedd y Llywodraeth yn Lloegr yn ymosodiad arnon ni i gyd."
Un a gefnogodd y streic yn Lloegr oedd canolwr tîm rygbi Cymru, Jamie Roberts. Mae ganddo radd mewn Meddygaeth, er nad yw erioed wedi gweithio fel meddyg. Ar hyn o bryd mae'n chwarae i'r Harlequins ac yn astudio am MPhil ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Ar ei gyfri' Twitter ddydd Mawrth, dywedodd Roberts: "Rwy'n cefnogi'r #meddygoniau yn llawn heddiw."
Ond dyw pawb ddim yn cytuno, mae cyn gadeirydd y BMA yng Nghymru, y cyn lawfeddyg, Russell Hopkins wedi ysgrifennu llythyr yn y Daily Telegraph yn dweud fod y sefydliad wedi "newid yn gorff gwleidyddol asgell-chwith", sy'n rhoi "ychydig iawn o ystyriaeth i ofal i gleifion".
Mae'r cyn lawfeddyg a rheolwr Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd hefyd yn dweud ei fod yn bwriadu ildio'i gymrodoriaeth gyda'r sefydliad.
Mewn ymateb, dywedodd y BMA: "Rhydd i bawb eu barn a dyw meddygon iau yn sicr ddim wedi penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol ar chwarae bach."
Beth sydd gan Lywodraeth Cymru i'w ddweud?
Mae'n debyg fod Gweinidogion yn cadw golwg ar ddatblygiadau yn Lloegr â llygaid barcud.
"Rydyn ni'n credu mewn gweithredu trwy ddulliau trafod a phartneriaeth" meddai llefarydd.
"Mae 'na bosibilrwydd y gall gweithredu diwydiannol yn Lloegr effeithio ar gleifion yng Nghymru sy'n cael triniaeth yn Lloegr ac ar y GIG yng Nghymru. Rydym felly wedi gofyn i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG i gyflwyno cynlluniau wrth gefn."
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae gan Gymru draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth gyda'n staff a'u cynrychiolwyr. Gall meddygon iau o unrhyw ran o'r DU sydd â diddordeb mewn gweithio yng Nghymru ddisgwyl croeso cynnes yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2015