Dyfodol Techniquest yn y fantol?
- Cyhoeddwyd

Mae sefydliad gwyddonol Techniquest wedi cael gwybod y bydd eu cyllideb gan Lywodraeth Cymru'n cael ei chwtogi o 22% y flwyddyn nesaf.
Mae'r sefydliad hefyd ar ddeall y gallai'r £1.3 miliwn o arian cyhoeddus ddiflannu'n llwyr erbyn 2019.
Mae Techniquest yn disgrifio'i hun fel "elusen addysgol sy'n annog plant a phobl ifanc i fod yn weithgar ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg" - sydd i gyd yn bynciau STEM.
Cafodd ei sefydlu ychydig dros 30 mlynedd yn ôl, ond mae'r newid yn y trefniadau cyllido yn codi cwestiynau am ddyfodol tymor hir yr elusen sy'n gyfrifol am ganolfannau yn Wrecsam a Chaerdydd.
Fe ddaw'r cyhoeddiad mewn cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio annog mwy i astudio pynciau STEM.
Ar hyn o bryd, arian gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am oddeutu 40% o incwm blynyddol yr elusen.
'Anghynaliadwy'
Wrth ateb cwestiwn am Techniquest yn ystod Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad fore Mercher, dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis:
"Mae'n ffaith ar unrhyw adeg, yn enwedig pan fo cyfyngiadau ar gyllidebau, fod Techniquest yn dibynnu gormod ar arian cyhoeddus. Dyw e ddim yn sefyllfa gynaliadwy.
"Mae'n rhaid ailstrwythuro...Rwy'n gwybod fod Techniquest yn cydnabod hynny ac rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio'n agos gyda nhw nawr ar greu proffil newydd, call, o'r hyn y dylai cefnogaeth gyhoeddus ar gyfer Techniquest edrych fel.
"Mae'n rhaid iddo newid - mae'r amgylchedd ariannol yn mynnu hynny."
Yn ogystal, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y llywodraeth wedi ysgrifennu at Techniquest fis diwetha' gydag amcan o ffigyrau cyllid i ddod, er mwyn gallu dechrau ar y gwaith cynllunio ar gyfer 2016-17.
"Bydd manylion terfynol y grant i Techniquest ar gyfer 2016/17 ar gael unwaith y bydd cynnig ffurfiol wedi'i gyflwyno a'i dderbyn," meddai.
"O ran gwneud Techniquest yn fwy cynaliadwy, heb ddibyniaeth ar gyllid grant gan Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi gofyn am ystyriaeth o amserlen bum mlynedd (yn dechrau yn y flwyddyn ariannol 2016-17) i helpu rheoli'r sefyllfa yn well. Rydym yn cydweithio gyda nhw i edrych ar hyn a chyfleoedd eraill mewn rhagor o fanylder."
'Diffyg gweledigaeth'
Mewn ymateb i'r cwtogiad cyllid, dywedodd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru: "Mae gan Techniquest record dda o gyflwyno plant a phobl ifanc i fyd gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg mewn ffordd arloesol ac atyniadol iawn. Mae ganddo brofiad 30 mlynedd yng Nghaerdydd ac yn Wrecsam. Mae cwtogi'r cyllid o 22% yn dangos diffyg gweledigaeth ac uchelgais y llywodraeth Lafur hon ar gyfer y genhedlaeth nesa'.
"Mae fy mhlant fy hun wedi cael boddhad mawr o ymweld fel teulu ac ar dripiau ysgol a byddai'n gam mawr yn ôl petai Techniquest yn methu parhau o ganlyniad i benderfyniad annoeth y gweinidog.
"Byddan yn ceisio sicrwydd gan y gweinidog na fydd y safle yn Wrecsam yn cael ei golli o ganlyniad i'r penderfyniad i hyn."