Prifysgol yn rhan o gynllun i archwilio'r arfordir

  • Cyhoeddwyd
gwirfoddolwyr
Disgrifiad o’r llun,
Hyfforddi gwirfoddolwyr yng nghysgod Pont Britannia rhwng Gwynedd a Môn

Mae un o brifysgolion Cymru yn un o saith canolfan yn y DU sy'n galw ar wirfoddolwyr i fod yn 'wyddonwyr yr arfordir'.

Bydd Prifysgol Bangor yn rhan o gynllun £1.7 miliwn o'r enw Capturing Our Coast sy'n ceisio gwella'n dealltwriaeth o fywyd morol y DU.

Bydd dros 3,000 o bobl ar draws Prydain yn cael eu hyfforddi i gasglu samplau ar gyfer gwyddonwyr morol.

Prifysgol Newcastle sy'n arwain y cynllun sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

'Arf pwerus dros ben'

Dywedodd yr Athro Stuart Jenkins o Brifysgol Bangor: "Mae hwn yn gyfle gwych i'r cyhoedd fod yn rhan o wyddoniaeth y môr, ac ar yr un pryd i ddarganfod mwy am weithgareddau ymchwil gwyddonwyr morol y DU.

"Ein nod yw adeiladu perthynas hir dymor gyda'r gwirfoddolwyr a fydd o fudd i'r ddwy ochr. Gallai rhwydwaith o wirfoddolwyr ar hyd arfordir creigiog Cymru a gweddill y DU fod yn arf ymchwil pwerus dros ben."

Mae partneriaid y cynllun yn cynnwys y Gymdeithas Warchod Morol, Canolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddor Môr a'r Natural History Museum.

Dywedodd Dr Heather Sugden, un o'r gwyddonwyr sy'n arwain y cynllun i Brifysgol Newcastle, bod y cynllun "y cyntaf o'i fath" yn y DU.

"Y nod yw datblygu rhwydwaith o ddinasyddion sy'n gallu ein cynorthwyo i greu darlun manwl a chywir o fywyd morol ar hyd y DU - darlun y gallwn ei ddefnyddio i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd a ffactorau amgylcheddol a dynol eraill," meddai.