Abertawe 2-4 Sunderland

Graham Scott yn dangos y cerdyn coch i Kyle Naughton Image copyright Reuters
Image caption Graham Scott yn dangos y cerdyn coch i Kyle Naughton

Hat-tric gan Jermain Defoe, Abertawe lawr i 10 dyn wedi i Kyle Naughton gael ei anfon o'r cae, a nifer o benderfyniadau dadleuol gan y dyfarnwr Graham Scott.

Fe ddechreuodd y gêm yn ofnadwy i Abertawe, wrth i Defoe roi Sunderland ar y blaen wedi dim ond tri munud o chwarae, ond fe lwyddodd Sigurdsson i unioni'r sgôr gyda chic o'r smotyn.

Er i Kyle Naughton gael ei anfon oddi ar y cae am dacl fudur 'dadleuol' ar Yann M'Vila, fe lwyddodd Andre Ayew i roi'r Elyrch ar y blaen cyn hanner amser.

Yn fuan yn yr ail hanner fe lwyddodd Van Aanholt i ddod a'r ymwelwyr yn gyfartal, gan roi gobaith newydd i'r Cathod Duon.

'Doedd hi ddim yn hir nes i Jermain Defoe roi'r bêl yng nghefn rhwyd Abertawe unwaith eto, ac fe sicrhaodd y fuddugoliaeth i Sunderland gyda thrydedd gôl.

Mae gan Yr Elyrch ddigon i gnoi cil amdano felly, wedi'r perfformiad siomedig yma yn erbyn Sunderland nos Fercher.