Rhybudd melyn am eira a rhew gan y Swyddfa Dywydd

  • Cyhoeddwyd
Snow covers the ground in Blaenavon, TorfaenFfynhonnell y llun, @craigtitchener
Disgrifiad o’r llun,
Eira ym Mlaenafon, Torfaen

Mae rhybudd melyn am eira a rhew yn dod i rym ar gyfer Cymru gyfan nos Iau.

Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym o 18:00 nos Iau tan 11:00 fore Gwener ac mae'r rhagolygon yn dweud y gallai hyd at 10cm o eira ddisgyn ar dir uchel.

Bydd y cawodydd o eira ac eirlaw yn symud drwy Gymru o'r gogledd tuag at y de-ddwyrain.

Gallai'r eira achosi problemau i deithwyr ac "amodau gyrru anodd," yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae'r tywydd eisoes wedi achosi problemau yng ngogledd Cymru wrth i'r A542 yn Llangollen gael ei chau am gyfnod.

Roedd yr A494 rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug ar gau am gyfnod wrth i lori fynd yn sownd mewn eira.

Ffynhonnell y llun, Twitter/@Miss_KES
Disgrifiad o’r llun,
Roedd eira fore Iau yn Rhosesmor, Sir y Fflint