Ymchwilwyr canser o Gymru yn arloesi
- Cyhoeddwyd
Steffan Messenger aeth i'r brifysgol i ddarganfod mwy
Mae ymchwilwyr prifysgol yng Nghymru yn arwain prosiect arloesol am y ffordd y mae gwyddonwyr yn gallu darganfod celloedd canser yn samplau cleifion.
Gan ddefnyddio'r un math o dechnoleg a'r feddalwedd sy'n adnabod olion bysedd neu'r wyneb, mae'r ymchwilwyr wedi hyfforddi cyfrifiadur i adnabod gwahanol fathau o gelloedd.
Mae'n golygu, er enghraifft, y gallai celloedd canser gael eu darganfod yn gyflymach a diagnosis cynt i gleifion.
Prifysgol Abertawe sy'n arwain y prosiect gydag arbenigwyr canser o'r Unol Daleithiau, yr Almaen, Llundain a Newcastle Upon Tyne.
Ar flaen y gad
Dywedodd yr Athro Paul Rees o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe fod gallu adnabod celloedd canser yn y gorffennol wedi bod yn her.
"Fe allech chi fod yn chwilio am un gell ganseraidd ymysg 100,000 o gelloedd iach, ac fe fyddai'n golygu fod rhywun yn edrych ar bob delwedd feicrosgopig cyn gwneud diagnosis."
Mae'r dechnoleg yn gallu adnabod cylch bywyd cell, gan osgoi gorfod chwistrellu staen arno allai newid y ffordd mae'r celloedd yn datblygu.
Cafodd gwaith y tîm ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Nature.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Havard yn America, Helmholtz Zentrum Muchen yn Munich, yr Almaen, Athrofa Francis Crick yn Llundain a Phrifysgol Newcastle wedi bod yn rhan o'r prosiect.
"Yn sicr, mae'r sefydliadau ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn canser ac maen nhw'n awyddus iawn i gael y math yma o offer," meddai'r Athro Rees.
"Mae'n ddatblygiad sy'n bwysig iawn i Gymru - mae'n dangos ein gallu ar y llwyfan rhyngwladol."