Ymfudwyr: Dirwy o fwy na £21,000 i landlord o Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae landlord o Sir Fflint, oedd yn euog o droseddau'n ymwneud â rhoi llety anaddas i ymfudwyr, wedi cael dirwy o fwy na £21,000.
Clywodd Ynadon Wrecsam y byddai rhaid i John Russell Brown dalu mwy na £56,000 o gostau.
Daeth asiantaethau o hyd i 107 o bobl, gan gynnwys plentyn 8 oed, mewn adeilad yn Sealand ar Lannau Dyfrdwy.
Yn benna, roedd yr ymfudwyr o Romania a Bwlgaria.
Plediodd Brown a'i gwmni Hyperion Investments yn euog i 12 cyhuddiad o gadw pobl mewn eiddo lle oedd risg fawr i iechyd.
Roedd y llys wedi clywed bod 107 yn rhannu chwe thoilet, chwe chawod a thair cegin yn yr adeilad oedd yn gyn safle gwerthu nwyddau,
Nid oedd dŵr poeth ar gael ym mhob rhan o'r adeilad ac roedd rhai o'r gwelyau wedi eu gosod ar frics.
£55 yr wythnos
Roedd Brown yn derbyn rhwng £50 a £55 yr wythnos gan bob unigolyn, cyfanswm o tua £23,000 y mis.
Yn ôl trydanwr archwiliodd yr eiddo, roedd yna berygl mawr o dân oherwydd cyflwr y gwifrau.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr yn gweithio ar dir amaethyddol yn ardal Seland.
Dywedodd cyfreithiwr Brown, Richard Thomas, fod y diffynnydd wedi pledio'n euog ar y cyfle cynta.
Yn wreiddiol, meddai, roedd wedi disgwyl y byddai rhwng 20 a 30 yn yr adeilad ond cynyddodd y nifer yn fawr.