Llai yn ymweld â Chymru o weddill y Deyrnas Unedig
- Published
image copyrightDiscover Carmarthenshire
Mae nifer yr ymweliadau â Chymru gan bobl o weddill y Deyrnas Unedig wedi gostwng bron i 20% yn 2015, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae ffigyrau newydd yn dangos fod 68 miliwn o ymweliadau wedi eu gwneud rhwng mis Ionawr a Thachwedd, gan greu gwariant o £2.4m.
Ond mae'r ystadegau gan Arolwg Diwrnod Ymweliadau Prydain Fawr yn awgrymu fod y nifer i lawr 19%, o'i gymharu gydag 11 mis cyntaf 2014.
Mae'r arolwg hefyd yn dweud fod gwariant i lawr 1%.
Bu 1.4 miliwn o dripiau ym Mhrydain yn 11 mis cyntaf 2015.